Berfenwau yn diweddu â -fod:


canfod, darganfod, darfod, cyfarfod

Y drefn yw trin y terfyniad fod fel y ferf bod :

amser dyfodol / presennol arferiadol:

bod - byddaf, byddi, bydd, etc.
canfod - canfyddaf, canfyddi, canfydd, etc.
cyfarfod - cyfarfyddaf, cyfarfyddi, cyferfydd, etc.


amser gorffennol:

bod - bûm, buost, bu, etc.
darganfod - darganfûm, darganfuost, darganfu, etc.




Berfenwau sy'n aros yn gyfan fel bôn

e.e. eistedd - eistedd-ais

darllen, edrych, dangos, chwarae, deall, trafod,, anfon, agor, cyfaddef, gorfen(n), estyn(n)

Weithiau, y mae newid bach yn y sillafu (affeithiad)

  1. -au yn troi yn -eu-: dechrau > decheuais
  2. -a yn troi yn -e- pan ychwanegir y terfyniadau -i, -ais, -aist, -wch, -ir, -id:

    cadw > cedwais, cedwch
    siarad > siaredais, siaredir

    -o yn troi yn -aw- (fel yr oedd yn gynt)

    addo (*addaw) > addewaist
    gwrando (*gwrandaw) gwrandewais, gwrandewch

  3. rr > rh ; nn > nh

    cyrraedd > cyrhaeddoedd
    cynnwys > cynhwysir

  4. nn > nh ; m > mh + -au > eu-

    cynnau > cynheuwch
    amau > amheuais

  5. Weithiau ychwanegir -i- cyn ychwanegu'r terfyniad:

    newid / newidiwch, newidiodd
    derbyn > derbyniais

  6. -w- > -y- (unrhyw derfyniad)

    cyffwrdd > cyffyrddais, cyffyrddodd
    meddwl > meddyliwch




Berfenwau lle y ceir y bôn trwy ollwng y terfyniad

e.e. cerdded > cerdd- > cerddais:

-ed
cerdded, gweled (gweld), ymweld (ymweld)
-eg
rhedeg
-yd
dychwelyd, dywedyd (dweud)
-yll
sefyll
-o
egluro; cofio, nofio, rhodio, ceisio
-i
codi, dodi, priodi, rhoddi, troi, paratoi, crynhoi, cyffroi
-u
caru, canu, ysgrifennu, penderfynu, mwynhau, glanhau, parhau, cadarnhau, cwblhau, etc.


Eto ceir -a- > -e- pan ychwanegir y terfyniadau berfol -i, -ais, -aist, -wch, -ir, -id yn lle'r terfyniad berfenwol -u:

caru
cerais, cerwch
canu
cenaist, cenwch, cenir, ceir
mwynhau
mwynheaist, mwynhewch
glanhau
glanheais, glanhewch